RoseJENKINSBryer gynt Yn dawel nos Fawrth 28 Medi yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, bu farw Rose o Afallon, Dryslwyn (gynt o Swyddfa'r Post, Dryslwyn); priod hoff a ffrind gorau'r diweddar Ian, chwaer fach annwyl Christine a'r diweddar Terry, chwaer-yng-nghyfraith serchus Phyllis a John, modryb gariadus Simon, Catrin, Gareth a David a hen fodryb arbennig i Elin, Alys, Cai, Seth, Elis, Nesta, Gwyn ac Angharad; ffrind ffyddlon a charedig i lawer. Angladd hollol breifat. Dim blodau, ond cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon neu Diabetes UK drwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG Ffôn: 01267 237100 / 01267 241626
Keep me informed of updates